Amdanom ni

Pwy yw Viscount Organs Wales?

A ninnau, oddi ar 2008, yn ganolfan gwasanaeth awdurdodedig yn Abertawe ar gyfer Viscount Organs, roeddem yn llawn cyffro ynghylch y cyfle i gael delwriaeth ar gyfer De Cymru a'r ardaloedd cyfagos. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Aled Rees yn The Music Station; mae Aled yn siaradwr Cymraeg rhugl sydd â dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector manwerthu cerddoriaeth, ac mae hefyd yn gerddor proffesiynol sy'n hyddysg mewn sawl math o gerddoriaeth.

Tony Packer yw ein peiriannydd gwasanaeth awdurdodedig ar gyfer ardal De Cymru, ac mae ganddo 30 mlynedd o brofiad yn y sector atgyweirio. Mae ei weithdy wedi'i leoli ym Mhorthcawl, ac mae ganddo ystafell arddangos manwerthu yn Abertawe, y tu mewn i'r Music Station, sy'n eiddo i berchennog newydd. Mae Viscount Classical Organs yn ymrwymedig i ddarparu'r lefel orau o wasanaeth cyn ac ar ôl gwerthu. A ninnau'n asiant gwasanaeth awdurdodedig i Viscount, gallwn ddarparu cymorth technegol a chyngor yn ddi-oed ar gyfer eich offeryn.

Os hoffech gysylltu â Viscount Organs Wales i gael rhagor o wybodaeth am ein cynhyrchion a'n gwasanaethau, gwnewch nodyn o'n manylion cyswllt yma. Fel arall, gallwch lenwi'r ffurflen gyswllt syml isod.

Dod o hyd I ni